Ydyn ni’n colli hyder?

Mae nifer i erthyglau wedi ymddangos ar flogiau dros y dyddiad diweddar yn codi pryderon ar ganlyniad y refferendwm. Maent wedi ymddangos ar flogau dwi’n darllen yn aml megis Inside Out, Valleys Mam, Miserable old Fart a Wales Home ac yn erthyglau sy’n coi pryderon ynglylch yr ymgyrch Ie – ydy’r ymgyrch yn dibynnu gormod ar celebs, neu ar rygbi? A oes rhyw newid wedi bod ym marn y bobl arferol? Ydy True Wales wedi cael effaith?

O’m brofiad personol i, ar y stryd yn Llambed a siarad a ffrindau, mae mwyafrif sylweddol o blaid datganoli pwerau deddfi llawn i’r Cynulliad. Nid yw fy ffrindiau, neu hyd yn oed y pobl sy’n dod i siarad a’r criw ar stondyn stryd o reidrwydd yn adlewyrchu’r barn cyhoeddus, ond dwi heb weld unrhyw symud mawr tuag at yr ochr na. Gyda polon piniwn yn dangos cefnogaeth cryf i’r ochr Ie, a dim ymgyrch ymlaen roedd yn hawdd i rai ohonom anghofio bod 25% o’r boblogaeth wedi bod yn erbyn datganoli pellach ers amser. Nawr, mae’r ymgyrch na wedi ffindio llais, ac yn cael sylw yn y cyfryngau. Dyn ni gyd wedi clywed am sibrydion pobl yn y dafarn yn dweud eu bod yn mynd i bleidleisio Na ond ydyn nhw’n pobl oedd yn mynd i bleidleisio Ie ac sydd wedi newid eu meddwl neu ydyn nhw o fewn y 25% sydd wastad wedi bod yn erbyn? Dwi ddim yn dweud mod i’n gwybod am ffaith fod dim newid ond gobeithio bod arweinwyr ymgyrch Ie yn cadw lygad ar unrhyw bolion piniwn ar gyfer unrhyw son am newid o’r fath.

Rhaid sicrhau bod y neges Ie yn cyrraedd  – ac mae’n bosbl nad yw hynny’n digwydd ym mhob man. Mae’r slogan am wneud deddfau yng Nghymru yn un da – ond inni fod yn barod i roi cig ar yr esgyrn. Mae’r cefnogaeth chwaraewyr rygbi yn gret – ond mae hefyd eisiau glywed mwy gan wleidyddion a phobl arferol. Rhaid inni barhau i berswadio y rhai sydd heb benderfynu eto bod pleidlais Ie yn olygu Cymru gwell – rhaid inni perswadio ein cefnogwyr i ddod allan i bleidleisio. Rhaid inni gadw golwg ar yr ymgyrch Na ac ateb eu dadleuon, ond peidio canolbwyntio arnynt. Mae’n llawer pwysicach i ni ymgyrchu am bleislais Ie mewn modd positif na phoeni am dactegau True Wales!

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.