Mae’r newyddion heddiw fod Prifysgol Cymru Llambed am ddileu 42 o swyddi yn drist, ond yn anffodus, nid yw’r sioc. Yn ol y brifysgol mae diffyg £2m yn y gyllideb y flwyddyn nesaf, ac oherwydd niferoedd o fyfyrwyr, gostyngiad yn y grant ymchwil, a chostau cyflogau a phensiynau nid oes modd i barhau gyda’r niferoedd o staff presennol. Mae’n anodd i fynd yn erbyn y ffaith fod problemau ariannol difrifol yn y brifysgol a bod yn rhaid weithredu i dorri costau. Mae colli un swydd yn siom, ond mae colli 42 o swyddi yng nghyflogwr mwyaf y dref yn ddaergryn economaidd. Nawr, mae’n rhaid i’r cynghorau lleol a Llywodraeth y Cynulliad sefyll i fyny.
Mae colli cymaint o staff sylweddol yn mynd i gael pob math o effaith ar y dref – llai o fyfyrwyr yn gwario, ac yn rhentu fflatiau, llai o gyflogau, heb son am yr effaith ar y Prifysgol.
Wnes i gyfweliadau teledu a radio yn dilyn y cyhoeddiad a chodwyd cwestiynau oedd am ddyfodol y brifysgol. Mae’r Is-Ganghellor newydd, Medwin Hughes yn gwneud pob ymdrech i fod yn agored gyda’r gymuned ac mae wedi addo buddsoddiad yn y campws. Mae’n credu fod y problemau ariannol yn rhai tymor byr. Does dim rheswm i fi amau’r addewid i fuddsoddi– er nad oes newyddion swyddogol am yr arian cyfalaf gan HEFCW eto mae’r sibrydion yn bositif. Beth sy’n fy mhoeni am ddyfodol y brifysgol yw bod Llambed yn mynd i mewn i’r Brifysgol newydd dan anfantais. Mae’n bosib bydd y swyddi sy’n mynd yn Llambed cyn yr uno yn golygu fod Llambed yn cael mwy na chyfran teg o’r arbedion.
Dywedais mwy nag unwaith yn y cyfweliad ‘mod i wir yn credu bydd y Brifysgol dal yn Llambed mewn 10 mlynedd. Nid yr uwch reolwyr presennol sy’n gyfrifol am y problemau presennol, ac mae’n edrych fel bod gweledigaeth gyda nhw am y dyfodol. Bydd y cyngor tref yn gwneud popeth o fewn ei allu i’w cynorthwyo. Mae dyfodol gan y brifysgol ond nid yw hyn yn gysur i’r rhai sy’n gwynebu colli swyddi.
Filed under: Pyst Cymraeg | Tagged: Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan


