Y Tywysog Olaf

Ar 1af Gorffennaf 1969, urwydd Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru. Roedd rhaglenni ar y BBC yn nodi’r digwyddiad wythnos diwethaf, ond prin oedd y dathliadau ar draws y wlad. Roedd yr arwisgiad yn dadleuol ar y pryd, a 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae trafodaeth difrifol ar ddyfodol y rol yn parhau.

Gweriniaethwr ydw i – gwela i ddim unrhyw synnwyr mewn dewis pennaeth gwlad trwy hawl etifeddu brenhinol, credaf y dylai pawb fod yn gyfartal, a chredaf y dylai’r bobl fon yn sofran. Er mwyn wireddu’r egwyddorion hyn, rhaid mabwysiadu system gweriniaethol o lywodraethu. Mae’r teulu brenhinol fel sefydliad yn hynafol, ac mae parhad rol “Tywysog Cymru” yn weddill o strwythr ac oes sydd wedi hen fynd – diolch byth.

O ran ymarferoldeb, mae cael Frenhines yn arbed dewis arlywydd, ac yng ngwledydd eraill y Gymanwlad, mae’r Frenhines yn bennaeth mewn enw yn unig. Mae strwythyr y llywodraeth yn ngwledydd fel Canada a Seland Newydd yn llawer mwy synhwyrol er bod y Frenhiness yn bennaeth, felly dwi’n agored i drefniad o’r fath yng Nghymru. Ond beth am rol “Tywysog Cymru”?

Fel nfer o bobl eraill, dwi’n galw am ddileu y rol cyn gynted ag y bo modd, ac yn sicr ar ol i Siarl ddod yn Frenin. Mae hanes y rol yn broblem – ond i fi mae’r bresennol yn fwy o ystyriaeth. Mae cael “Tywysog Cymru” yn drysu pobl i feddwl fod Cymru yn dywysogaeth pan nad yw hi. Ardal o Gymru oedd y Dywysogaeth heb unrhw statws ers 1689.

Mae galw Cymru’n “Dywysogaeth” yn rhoi Cymru ar statws is i wledydd eraill Prydain.

Mae bodolaeth rol “Tywysog Cymru” yn rhoi camagraff ein gwlad i weddill y byd. Mae’r creu’r argraff bod Cymru yn wlad y tylwth teg. Dwi’n cofio gweld arddangosfa yng Nghastell Caernarfon nifer o flynyddoedd yn ol lle roedd polyn piniwn rhyngweithiol yn gofyn beth oedd ymwelwyr yn meddwl am Cymru. Ar ol darllen “gwybodaeth” am Gymru, roedd tua 60% ohonynt yn meddwl fod Tywysog Cymru yn llywodraethu’r wlad.

Mae’n wir bod Siarl wedi gwneud llawer o waith gwych gyda phobl ifainc, yr amgylchedd a phensaerniaeth. Mae’n ddyn galluog. Ond mae ei deitl yn gwneud dolur i Gymru. Rhaid inni fod yn wlad modern, croesawgar, democrataidd a theg ond mae hyn yn anodd pan fod gweddill y byd yn meddwl ein bod yn byd yn yr oesoedd canol ac yn eiddo i fab y frenhiness.

Os bydd Sial wir eisiau wasanaethu “Ei Dywysogaeth”, gallaf sicrhau mai fe yw’r Tywysog Cymru olaf.

Un Ymateb

  1. Cytuno’n llwyr. Balch gweld dwyieithrwydd ar y safle

Leave a Reply